
GlobalWelsh yn partneru gyda'r Urdd fel eu Partner Elusennol y Flwyddyn cyntaf
Mae GlobalWelsh, mudiad diaspora Cymru, yn cyhoeddi bod Urdd Gobaith Cymru (“Yr Urdd”) wedi dod yn eu Partner Elusennol y Flwyddyn cyntaf. Bydd y bartneriaeth blwyddyn o hyd yn dathlu llwyddiannau’r Urdd yn ei chanmlwyddiant ac yn gweld y ddau fudiad yn cefnogi gwaith ei gilydd i hyrwyddo Cymru i’r byd a chodi dyheadau pobl ifanc Cymru.
“Mae cael GlobalWelsh i ddewis yr Urdd fel eu partner elusennol cyntaf erioed yn anrhydedd, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a’r bartneriaeth y maent yn eu cynnig. Mae eu gallu i gysylltu â’r diaspora Cymreig a gobeithio ailgysylltu rhai Cymry â’r Urdd yn rhywbeth rydyn ni’n gyffrous iawn yn ei gylch."
Mae Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid mwyaf Cymru, yn cynnig profiadau addysgol unigryw ar draws diwylliant, chwaraeon ac antur awyr agored i bobl rhwng 8 a 25 oed yng Nghymru. Mae’n sefydliad sydd wedi cyffwrdd â miliynau o fywydau Cymreig ledled y byd ac sy’n parhau i adeiladu ar hynny trwy ei Neges Heddwch ac Ewyllys Da blynyddol.
Mae’r Urdd yn dal lle arbennig yng nghalonnau llawer o aelodau cymuned GlobalWelsh wrth iddynt fyfyrio ar eu cyfnod yn tyfu i fyny yng Nghymru. Mae’r ddau sefydliad yn rhannu gwerthoedd ac uchelgeisiau, megis hyrwyddo Cymru yn fyd-eang, credu yn ffyniant Cymru yn y dyfodol, a chodi dyheadau pobl ifanc yng Nghymru a ledled y byd.
“Am y can mlynedd diwethaf mae’r Urdd wedi chwarae rhan bwysig ym mywydau llawer o bobl ifanc Cymru, ac mae effaith hynny wedi gwreiddio’n ddwfn ac yn bellgyrhaeddol. Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni’n credu y dylid ei ddathlu, felly rydyn ni’n gyffrous i fod yn partner gyda nhw yn ystod blwyddyn anferthol eu canmlwyddiant.”
Yr Urdd fydd Partner Elusennol y Flwyddyn cyntaf GlobalWelsh. Dywedodd Walter May, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol GlobalWelsh:
“Mae cael Partner Elusennol y Flwyddyn yn rhywbeth rydyn ni wedi bod eisiau ei wneud ers tro a nawr mae’r amser yn iawn. Byddwn yn canolbwyntio ar elusennau sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd a'n huchelgeisiau, megis yr Urdd, sy'n gwneud gwaith gwych dros Gymru gartref ond hefyd dramor.
“Am y can mlynedd diwethaf mae’r Urdd wedi chwarae rhan bwysig ym mywydau llawer o bobl ifanc Cymru, ac mae effaith hynny wedi gwreiddio’n ddwfn ac yn bellgyrhaeddol. Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni’n credu y dylid ei ddathlu, felly rydyn ni’n gyffrous i fod yn partner gyda nhw yn ystod blwyddyn anferthol eu canmlwyddiant.”
Mae 2022 yn nodi 100 mlynedd o’r Urdd a dathliad blwyddyn o hyd i’r mudiad meddai Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd:
“Mae cael GlobalWelsh i ddewis yr Urdd fel eu partner elusennol cyntaf erioed yn anrhydedd, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a’r bartneriaeth y maent yn eu cynnig. Mae eu gallu i gysylltu â’r diaspora Cymreig a gobeithio ailgysylltu rhai Cymry â’r Urdd yn rhywbeth rydyn ni’n gyffrous iawn yn ei gylch.
"Ym mlwyddyn ein canmlwyddiant rydym yn canolbwyntio ar ddyfodol yr Urdd, gan sicrhau ein gwasanaethau cymunedol a chwaraeon, Eisteddfod yr Urdd a gwersylloedd preswyl ar gyfer y genhedlaeth nesaf a’r 100 mlynedd nesaf. I wneud hyn mae’r Urdd angen ffrindiau a chefnogaeth o bob rhan o’r byd, ac edrychwn ymlaen at ennill cysylltiadau newydd a rhannu’r wybodaeth a’r cyfleoedd y gall GlobalWelsh eu cynnig i ni a phobl ifanc Cymru.”
Dysgwch fwy am yr Urdd a gweithgareddau blwyddyn ei ganmlwyddiant yma >>