GlobalWelsh Connect is live Find out more    | Join Connect
Zara Bass Zara Bass Share

GlobalWelsh yn lansio hyb newydd yn y Dwyrain Canol

13 Dec, 2021

Mae GlobalWelsh, y sefydliad diaspora byd-eang sydd a’i ffocws ar gysylltu Cymru â diaspora Cymreig ledled y byd, wedi lansio hyb newydd yn y Dwyrain Canol. Mae GlobalWelsh Middle East yn ymuno â rhwydwaith o hybiau eraill mewn dinasoedd economaidd fywiog ledled y byd gan gynnwys Llundain, Beijing, Tokyo a Dulyn. Caiff yr hyb ei lansio'n swyddogol mewn digwyddiad ar y 15fed o Ragfyr yn Llysgenhadaeth Prydain yn Dubai gyda'r siaradwr gwadd, Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething AS, yn ymuno’n rhithwir o Gymru.

"Helpu pobl a busnesau Cymru yn y gymuned i gysylltu yn lleol, yn fyd-eang ac yn ôl i Gymru, yw sail GlobalWelsh arno ac rwy'n hynod gyffrous i roi stamp mawr Cymreig yn y Dwyrain Canol.”

Bydd yr hyb rhithwir yn cynrychioli GlobalWelsh ac yn hwyluso gweithgareddau ar lawr gwlad yn y rhanbarth gan ganolbwyntio ar wledydd Cyngor Cydweithredu'r Gwlff (GCC) sy'n cynnwys yr Emiradau Arabaidd Unedig, Bahrain, Kuwait, Oman, Qatar a Saudi Arabia. Dan arweiniad Mark Prendergast, cyn Brif Swyddog Gweithredol grŵp cwmni peirianneg fyd-eang Harris Pye Engineering Group, sydd wedi treulio dros 20 mlynedd yn byw ac yn gweithio yn Dubai. Mae gan yr hyb gefnogaeth gref yn lleol hefyd gan Lywodraeth Cymru a Chlwb Cymru Dubai, y gymuned Gymreig o fewn Clwb Cymdeithasol Prydain sydd wedi'i leoli yn Dubai.

Dywedodd Mark Prendergast, cydlynydd GlobalWelsh y Dwyrain Canol, “Rwyf wedi treulio’r 25 mlynedd diwethaf yn teithio o amgylch y byd gyda busnes, ac yn yr amser hwnnw rwyf wedi bod yn ffodus iawn i allu deall pŵer adeiladu rhwydwaith. Trwy gydol fy ngyrfa rwyf wedi tyfu'n fwyfwy angerddol am fy ngwreiddiau yng Nghymru. Wedi gadael fy musnes yn 2020, mae bellach yn bryd imi sianelu fy angerdd yn ôl i Gymru ac mae GlobalWelsh yn cynnig y llwyfan perffaith i mi wneud hyn. Helpu pobl a busnesau Cymru yn y gymuned i gysylltu yn lleol, yn fyd-eang ac yn ôl i Gymru, yw sail GlobalWelsh arno ac rwy'n hynod gyffrous i roi stamp mawr Cymreig yn y Dwyrain Canol.” 

Caiff hybiau GlobalWelsh eu harwain yn wirfoddol gan aelodau angerddol o'r diaspora sydd â rhwydweithiau a phrofiad i hwyluso gweithgareddau GlobalWelsh a chefnogi pobl a busnesau yn y gymuned sy'n awyddus i wneud cysylltiadau, darganfod cyfleoedd a chael gwybodaeth am y farchnad. I aelodau lleol mae'n darparu ffordd iddynt rwydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill ac arweinwyr busnes yn lleol, ond hefyd yn fyd-eang ac yn ôl gartref yng Nghymru.

“Mae Cymru yn wlad fach gyda phoblogaeth o ychydig dros dair miliwn ac rydyn ni eisoes yn cystadlu gyda’r goreuon ar lwyfan y byd. Trwy ymgysylltu â'n teulu byd-eang, rwy'n argyhoeddedig y gallwn, gyda'n gilydd, helpu Cymru i dyfu a ffynnu ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y siwrnai honno."

Dywedodd Walter May, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol GlobalWelsh, “Rydym yn falch iawn o agor ein hyb yn y Dwyrain Canol. Rydym yn cydnabod bywiogrwydd a phŵer economaidd y rhanbarth a phwysigrwydd denu buddsoddiad a masnach i Gymru. Mae'r ffaith bod gennym gymuned drawiadol o Gymry uchel eu cyflawniad yn y rhanbarth yn rhoi cyfle enfawr i GlobalWelsh, ein haelodau ac i Gymru. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Mark, y tîm a'i rwydwaith, ar brosiectau effeithiol a chysylltu Cymru â'r rhan bwysig hon o'r byd. ”

Caiff lansiad yr hyb newydd ei ddathlu gyda digwyddiad yn Llysgenhadaeth Prydain yn Dubai, brynhawn y 15fed o Ragfyr. Bydd y lansiad, mewn partneriaeth â chwmni technoleg Cymru, Vortex IoT, yn gasgliad o bobl leol ac arweinwyr busnes Cymru, a bydd Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething AS yn ymuno hefyd, gan nodi’r achlysur yn ffurfiol gydag anerchiad cyn digwyddiad Llywodraeth Cymru a gynhelir ym Mhafiliwn y DU yn Expo 2020 Dubai wedi'i dargedu at Diaspora Cymru.

"Rydym yn cydnabod bywiogrwydd a phŵer economaidd y rhanbarth a phwysigrwydd denu buddsoddiad a masnach i Gymru. Mae'r ffaith bod gennym gymuned drawiadol o Gymry uchel eu cyflawniad yn y rhanbarth yn rhoi cyfle enfawr i GlobalWelsh, ein haelodau ac i Gymru."

Dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething: “Mae’n wych gweld lansiad hyb Dwyrain Canol GlobalWelsh. Mae'r hyb hwn yn cynnig mynd ag ymgysylltiad gyda'n diaspora busnes yn y rhanbarth i'r lefel nesaf, ac mae hyn yn rhywbeth rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ei weld. Mae diaspora Cymru yn ased pwysig i Gymru, ac mae'n wirioneddol galonogol bod sefydliadau, fel GlobalWelsh, yn cydnabod gwerth a photensial ymgysylltu â diaspora ac yn ymrwymo adnoddau i helpu i harneisio'r potensial hwnnw.

“Mae'r Dwyrain Canol yn farchnad bwysig iawn i Gymru, yn enwedig i'n hallforwyr. Bydd yr hyb hwn yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod ein diaspora Cymreig yn y rhanbarth yn cefnogi ac yn helpu i dyfu amlygrwydd cwmnïau a chynhyrchion Cymreig yma. Fel yr amlinellwyd mewn erthygl yn yr Economist, mae rhwydweithiau busnes mudol yn newid y byd. Rwy’n siŵr y bydd yr hyb newydd hwn yn chwarae ei ran wrth newid Cymru trwy gefnogi a gyrru economi Cymru ymlaen i’r dyfodol.

“Mae Cymru yn wlad fach gyda phoblogaeth o ychydig dros dair miliwn ac rydyn ni eisoes yn cystadlu gyda’r goreuon ar lwyfan y byd. Trwy ymgysylltu â'n teulu byd-eang, rwy'n argyhoeddedig y gallwn, gyda'n gilydd, helpu Cymru i dyfu a ffynnu ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y siwrnai honno."

The Hub is now welcoming new members located within the Middle East region to join them via GlobalWelsh Connect >> connect.globalwelsh.com. The team can be reached directly via middleeast@globalwelsh.com.

Growing wales' largest community, online. 99 Days 99 Hrs 99 Mins 99 Secs Discover GlobalWelsh Connect