GlobalWelsh Connect is live Find out more    | Join Connect
Zara May Zara May Share

GlobalWelsh yn partneru â Dŵr Cymru i gynnal ymchwil i ‘brain drain’ yng Nghymru

09 May, 2024

Mae GlobalWelsh wedi partneru â Dŵr Cymru, cwmni dŵr nid-er-elw Cymru, i gynnal ymchwil i ‘brain drain’ yng Nghymru.

Mae’r term ‘brain drain yn cyfeirio at ‘allfudiad o bobl hyfforddedig neu gymwys iawn o wlad benodol,’ mater economaidd cynyddol i Gymru sydd wedi bod yn colli talent ers degawdau. Bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar ddau faes allweddol; pam mae pobl broffesiynol yn gadael Cymru, ac ar ba sail y byddent yn cael eu hannog i ddychwelyd i Gymru yn y dyfodol.

"Mae Cymru yn genedl sydd â hanes mudo unigryw, flwyddyn ar ôl blwyddyn rydym yn colli miloedd o bobl dalentog, ond ychydig iawn o ymchwil ar raddfa fawr, os o gwbl, sydd wedi’i wneud yn y maes hwn."

Bydd Dr Sarah Louisa Birchley, Athro yn Ysgol y Graddedigion a Chyfadran Gweinyddiaeth Busnes ym Mhrifysgol Toyo Gakuen yn Tokyo, Siapan ac aelod o fwrdd GlobalWelsh, yn cynnal yr ymchwil dros gyfnod o chwe mis gyda’r bwriad o gyhoeddi’r canfyddiadau mewn adroddiad ym mis Hydref. Mae Dr Birchley, sydd ei hun yn aelod o’r diaspora Gymreig, yn wreiddiol o Gwmbrân, yn arbenigo mewn entrepreneuriaeth diaspora a thrawswladol. Dywedodd:

“Fel ymchwilydd entrepreneuriaeth diaspora, rwyf wedi treulio fy ngyrfa yn ymchwilio’r diaspora Siapaneaidd; archwilio sut a pham mae pobl Siapan yn gadael ac yn sefydlu busnesau dramor. Mae’n fraint cael y cyfle i fod yn rhan o dîm sy’n gweithio ar astudiaeth mor bwysig o’r diaspora Gymreig. Rwy’n gyffrous i ddechrau ar yr ymchwil hwn gan ei fod yn gyfle unigryw i archwilio sut mae mudo yn siapio cymdeithasau, economïau, a diwylliannau, a llywio datblygiad strategaethau ar gyfer cymryd mantais o botensial cymunedau diaspora ac annog dychwelwyr. Mae’r tîm wedi ymrwymo i gael mewnwelediadau a fydd yn llywio polisi, grymuso cymunedau, a meithrin cydweithrediad byd-eang gyda’n rhwydwaith diaspora hynod dalentog.”

Mae gan y diaspora Gymreig botensial i wneud cyfraniad cymdeithasol ac economaidd sylweddol i Gymru heb ddychwelyd yn gorfforol. Mae Dr Birchley yn enghraifft wych o hynny drwy ei rôl yn GlobalWelsh yn cefnogi busnesau Cymreig i fynd mewn i’r farchnad yn Siapan. Disgwylir i ganlyniadau’r ymchwil hysbysu nifer o sefydliadau yng Nghymru sydd angen adnabod a denu talent yn ôl, cadw gweithwyr allweddol, cysylltu’n fwy effeithiol â rhwydweithiau rhyngwladol yn ogystal â helpu i ysgogi mewnfuddsoddiad a chymorth ariannol i fusnesau.

"Bydd yr ymchwil hwn yn helpu i ddeall beth arall y gellir ei wneud i ddenu pobl yn ôl i Gymru, ond hefyd i gael gwell dealltwriaeth o’r raddfa, yr arbenigedd a’r cyfleoedd a all fodoli gyda’r diaspora Gymreig ledled y byd."

Dywedodd Walter May, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol GlobalWelsh:

“Fel sefydliad sy’n canolbwyntio’n llwyr ar ailgysylltu Cymru â’i ddiaspora, mae gennym ni ddiddordeb yng nghymhellion ein rhwydwaith ar draws holl ardaloedd amrywiol, diwydiannol a gwledig Cymru. Mae Cymru yn genedl sydd â hanes mudo unigryw, flwyddyn ar ôl blwyddyn rydym yn colli miloedd o bobl dalentog, ond ychydig iawn o ymchwil ar raddfa fawr, os o gwbl, sydd wedi’i wneud yn y maes hwn.

‘Fel gwlad, os ydym am ysgogi ac ysbrydoli’r diaspora i ddychwelyd o gwbl, rhaid i ni yn gyntaf edrych ar pam y gwnaethant adael a phenderfynu beth y gellir ei wneud i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag dod adref. Wrth gwrs, gallwn dybio ein bod yn gwybod y rhesymau, ond nes eich bod yn gofyn y cwestiynau cywir, yn feintiol ac yn ansoddol, ni chewch yr atebion cymhleth, gwirioneddol. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at rannu canlyniadau’r ymchwil hwn a dechrau trafodaethau pellach ar sail Cymru gyfan a rhanbarthol. Rydym yn llwyr ddisgwyl adnabod camau nesaf diriaethol o’r astudiaeth hon.”

Mae GlobalWelsh a Dŵr Cymru wedi gosod targed o 5,000 o ymatebwyr a byddant yn chwilio am gymorth gan sefydliadau rhyngwladol sy'n gysylltiedig â Chymry ledled y byd i sicrhau'r cyfranogiad mwyaf posibl yn yr ymchwil bwysig hon. Ychwanegodd Martin Driscoll, Cyfarwyddwr Cefnogi Busnes a Phobl Dŵr Cymru:

“Mae’n fraint cael gweithlu hynod dalentog yng Nghymru – ar draws pob sector – ond mae miloedd o bobl o Gymru yn gweithio o amgylch y byd a allai ychwanegu gwybodaeth a phrofiad sylweddol er budd Cymru pe baent yn dychwelyd yma i weithio neu i weithio gyda chwmnïau Cymreig mewn swyddi eraill. Bydd yr ymchwil hwn yn helpu i ddeall beth arall y gellir ei wneud i ddenu pobl yn ôl i Gymru, ond hefyd i gael gwell dealltwriaeth o’r raddfa, yr arbenigedd a’r cyfleoedd a all fodoli gyda’r diaspora Gymreig ledled y byd.”

Bydd GlobalWelsh yn chwilio am gymorth gan sefydliadau rhyngwladol sy'n gysylltiedig â Chymry ledled y byd, er mwyn sicrhau ein bod yn cynyddu cyfranogiad i’r ymchwil pwysig yma.

Rydym hefyd yn cynllunio digwyddiad ar-lein, yn gynnar ym mis Mehefin lle bydd yr Athro Dr Sarah Birchley yn amlinellu cefndir a dull y prosiect ymchwil mawr hwn. Bydd mynychwyr yn cael cipolwg ar y cwestiynau y byddwn yn eu gofyn a sut y gallai canlyniadau'r ymchwil fod o fudd i chi a'ch sefydliad. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â Phrif Swyddog Gweithredol GlobalWelsh, Walter May ar walter@globalwelsh.com neu Dr Sarah Louisa Birchley ar sarah@globalwelsh.com

 

Growing wales' largest community, online. 99 Days 99 Hrs 99 Mins 99 Secs Discover GlobalWelsh Connect