GlobalWelsh yn partneru gyda Gŵyl y Gelli i'w gwneud yn Bartner Elusen y Flwyddyn
Mae GlobalWelsh, y sefydliad diaspora Cymreig sy'n canolbwyntio ar gysylltu pobl a busnesau Cymru yn fyd-eang, yn cyhoeddi eu bod wedi dewis Gŵyl y Gelli fel Partner Elusen y Flwyddyn ar gyfer 2024. Bydd y bartneriaeth blwyddyn o hyd yn canolbwyntio ar uchelgeisiau'r ddau sefydliad i ddyrchafu proffil diwylliannol, busnes ac economaidd Cymru ar lwyfan y byd.
Wedi'i lleoli yn Y Gelli Gandryll, Powys, mae Gŵyl y Gelli yn elusen a gydnabyddir yn fyd-eang, ac mae'n cynnal rhaglen o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn sy'n ysbrydoli cymunedau ledled y byd. Ochr yn ochr â'r rhifynnau Gŵyl y Gelli adnabyddus, mae'r elusen yn ehangu cyfranogiad diwylliannol trwy brosiectau allgymorth ac addysg am ddim sy'n targedu arloeswyr y dyfodol.
Mae gan GlobalWelsh a Gŵyl y Gelli hanes hir o gydweithio ar ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio ar ddiaspora, busnes a diwylliant. Mae GlobalWelsh eisoes wedi curadu nifer o ddigwyddiadau yng Ngŵyl y Gelli gan gynnwys siaradwyr fel y chwaraewr rygbi rhyngwladol Sam Warburton, y dyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Mountain Warehouse, Mark Neale, sylfaenydd JustEat, David Buttress a chyn Prif Swyddog Gweithredol Rolls-Royce ac ARM Holdings, Warren East.
Bydd y bartneriaeth newydd yn ceisio ehangu ar y cysylltiadau cryf hyn rhwng y ddau sefydliad a bydd yn ceisio archwilio syniadau newydd a pherthnasol yn y flwyddyn i ddod trwy arweinyddiaeth meddwl a digwyddiadau gyda ffocws rhyngwladol. Bydd cyfleoedd pellach hefyd i gydweithio ar brosiectau ehangach wedi'u targedu gan y gymuned sy'n canolbwyntio ar weithgareddau ymgysylltu diaspora sydd o fudd i Gymru.
Dywedodd Julie Finch, Prif Weithredwr Sefydliad Gŵyl y Gelli Cyf:
“Fel elusen, rydyn ni’n credu y gall syniadau newid y byd. Dros y 12 mis nesaf, mae gennym gynlluniau cyffrous i barhau i ehangu mynediad i'r sgyrsiau a pherfformiadau pwysig sy'n digwydd ar ein llwyfannau. Rydym yn falch iawn o fod yn bartner gyda GlobalWelsh i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a mynd â’n negeseuon a’n cenhadaeth ymhellach fyth yn fyd-eang.”
Dywedodd Walter May, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol GlobalWelsh:
“Mae GlobalWelsh wedi bod yn gefnogwr hirsefydlog o Ŵyl y Gelli, rydym yn aml yn cyfeirio ati fel perl yng nghoron Cymru o ystyried cryfder ei heffaith ddiwylliannol ac economaidd ar Gymru a’r byd. Mae’n amserol ac yn berthnasol iawn i fod yn eu cefnogi eleni wrth iddynt gynyddu eu gweithgareddau rhyngwladol ac rydym yn gyffrous iawn i’w cael fel ein partner elusennol eleni.”