GlobalWelsh Connect is live Find out more    | Join Connect
Zara Bass Zara Bass Share

GlobalWelsh a Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth er mwyn darparu cefnogaeth busnes gyda’r Cymry ar wasgar

11 Jan, 2021

Cydweithio cyhoeddus-preifat i ddarganfod cyfleoedd economaidd newydd i Gymru yn rhyngwladol

Heddiw mae GlobalWelsh, y sefydliad dielw er budd cymunedol  sydd â’i ffocws ar ymgysylltu a chysylltu’r Cymry ar wasgar, yn cyhoeddi ei fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru. Bydd y bartneriaeth newydd yn canolbwyntio ar ymestyn cefnogaeth i entrepreneuriaid a busnesau Cymreig sy’n awyddus i fasnachu’n rhyngwladol a datblygu cyfleoedd mewnfuddsoddi  newydd i Gymru.

"Rydyn ni hynod o falch bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod rôl y Cymry ar wasgar fel adnodd newydd o wybodaeth, cysylltiadau a phŵer meddal a all gyfrannu’n weithredol at les economaidd a phresenoldeb byd-eang Cymru."

Fel rhan o Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2020, bydd GlobalWelsh yn gweithio ar y cyd â thimau mewnfuddsoddi ac allforio y llywodraeth i ddarparu gweithgareddau ymgysylltu’r Cymry ar wasgar ar draws sectorau blaenoriaeth gan gynnwys; Technoleg Ariannol; Technoleg Feddygol a Gwyddorau Bywyd; Technoleg Forol ac Ynni Adnewyddadwy; Y Genhedlaeth Nesaf a Cherbydau Trydan; Lled-ddargludyddion Cyfansawdd; a Seiber.

Mae'r bartneriaeth yn nodi cam cydweithredol ymlaen o ran ymgysylltu â'r Cymry ar wasgar er mwyn hybu ewyllys da, arbenigedd a rhwydweithiau i gefnogi cyflwyno Cynllun Gweithredu Ymgysylltu â Chymry ar Wasgar Llywodraeth Cymru. Bydd y gweithgareddau’n canolbwyntio ar gymorth i deithiau masnach, mentora busnes, a hwyluso cysylltiadau a chyfleoedd newydd ar gyfer mewnfuddsoddi a busnesau Cymreig sy’n awyddus i fasnachu dramor, yn ôl Walter May, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol GlobalWelsh:

“Os bu angen erioed i Gymru estyn allan at y  Cymry ar wasgar, dyma’r amser hwnnw. Mae gennym fwy na thair miliwn o gyfeillion, wedi'u gwasgaru ledled y byd, ac ni fu erioed yn haws ymgysylltu a gwneud yn fawr o’u hewyllys da. GlobalWelsh yw un o’r sefydliadau  cyntaf yn y byd i ddatblygu’r cyfleuster technolegol a rhaglenni ategol, sy’n galluogi’r Cymry ar wasgar a’r genedl ei hun i gysylltu, cydweithredu, cefnogi a buddsoddi yn rhagweithiol yng ngyrfaoedd a nodau busnes ei gilydd.”

“Os bu angen erioed i Gymru estyn allan at y Cymry ar wasgar, dyma’r amser hwnnw. Mae gennym fwy na thair miliwn o gyfeillion, wedi'u gwasgaru ledled y byd, ac ni fu erioed yn haws ymgysylltu a gwneud yn fawr o’u hewyllys da."

Canfu adroddiad, a ddatblygwyd gan GlobalWelsh yn 2015, fod mwy na 100 o lywodraethau ledled y byd yn datblygu strategaethau i ymgysylltu â'u diaspora, gan gydnabod y rôl y gall aelodau allweddol o'r diaspora ei chwarae wrth wella economïau gwledydd sy’n bwysig iddynt, naill ai trwy enedigaeth neu linach neu ymlyniad o unrhyw fath heb orfod dychwelyd adref i’r wlad honno’n barhaol. Mae dull cydweithredol rhwng y sector preifat a'r llywodraeth wedi profi i fod yn ddull effeithiol o ymgysylltu â diaspora a chroesawodd Walter May gefnogaeth Llywodraeth Cymru:

“Rydyn ni hynod o falch bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod rôl y Cymry ar wasgar fel adnodd newydd o wybodaeth, cysylltiadau a phŵer meddal a all gyfrannu’n weithredol at les economaidd a phresenoldeb byd-eang Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi’r llywodraeth a darganfod cyfleoedd newydd i Gymru a busnesau Cymru, a hynny gyda’r Cymry ar wasgar.”

Dros y tair blynedd diwethaf, mae GlobalWelsh wedi adeiladu cymuned fyd-eang aml-lefel o dros 11,000 o bobl ac wedi lansio llwyfannau ymgysylltu ar draws meysydd ffocws allweddol gan gynnwys buddsoddi, mentora, rhwydweithio ac arweinyddiaeth agweddau.

Join the community to get involved or get in touch with us.

Growing wales' largest community, online. 99 Days 99 Hrs 99 Mins 99 Secs Discover GlobalWelsh Connect