Mae hyn yn unrhyw beth ond syniad ar hap. O'r cychwyn cyntaf yn 2012 hyd at heddiw, rydyn ni wedi bod yn gweithio tuag at Gymru fwy disglair.
Lansiad swyddogol GlobalWelsh
Ym mis Mai gwelwyd lawsiad swyddogol o GlobalWelsh a chyda hi penodwyd Prif Weithredwr URC Martyn Phillips fel Cadeirydd y Bwrdd, a Keith Griffiths, Cadeirydd Aedas yn Hong Kong, fel Cadeirydd o’n Bwrdd Cynghori Byd-eang. I gyd-fynd gyda’r lansiad, cynhelir digwyddiad arall a werthwyd allan a chafodd ei gynnal yng Ngŵyl y Gelli, y tro yma gyda’r athletwr eithafol ac anturwr byd-eang Richard Parks.
Ein ‘diaspora’ yn tyfu
Blwyddyn o adeiladu a chynllunio. Gwaith yn parhau ar adnabod ein ‘diaspora’, gan esblygu’r cynllun busnes, a chodi cyllid cychwynnol gan ddeiliaid stoc Cymru.Blwyddyn bu tîm GlobalWelsh yn penderfynu gwthio ymlaen i wneud i’r prosiect anhygoel hwn i ddigwydd.
GlobalWelsh wedi'i sefydlu
Cafodd adroddiad ymchwil ei gyhoeddi a chafodd cynllun busnes cychwynnol ei greu i sefydlu GlobalWelsh yn ffurfiol.
Gŵyl y Gelli yn westeiwr i ddau ddigwyddiad GlobalWelsh, a werthwyd allan - y cyntaf gyda Prif Swyddog Gweithredol Rolls Royce Warren East, Julie Mayer o Ariadne Capitol a Tim Finch o Migration Communication Hub; yr ail oedd digwyddiad wedi’i gynnal gyda Phrif Weinidog Cymru a 50 o arweinwyr Cymru preswylwyr a ddi-breswylwyr.
Ymchwil, ymchwil, ymchwil
Sicrhawyd cefnogaeth ariannol, deallusol a moesol gan entrepreneuriaid Nick Pearce (Object Matrix), Jason Smith (Blurrt), Dave Dean (Risk Monitor) a Chris Raybould (Centric Global), a Llywodraeth Cymru, er mwyn cynnal prosiect ymchwil 6-9 mis. Cafodd cymorth ychwanegol ei recriwtio ar ffurf Tim Morgan o Mint Digital a Luke Cornish o Lloyds Bank.
Manteision o ymgysylltu â diaspora
Cyflwynodd Kingsley i uwch swyddogion Llywodraeth Cymru ac entrepreneuriaid ar fanteision o ymgysylltu â ‘diaspora’. Dechreuodd ymchwil y prosiect, gan osod cwestiynau megis: “Beth sy’n digwydd ar draws y byd ynglŷn â chysylltiadau ‘diaspora’?” , “Sut ydy sefydliadau ‘diaspora’ yn ymgysylltu â'u ‘diaspora’ a beth yw’r buddion?”, “Pam ydy aelodau o’r gwledydd yma yn rhoi yn ôl?”, “Oes gan Gymru aelodau ‘diaspora’ Cymreig gyda prinrwydd i rhoi yn ôl i Gymru?”, ac “A ddylai Cymru sefydlu sefydliad cysylltiadau â ‘diaspora’ ac os ydyw, sut?”
Cynhadledd Entrepreneuriaid Cymru
Y dechreuadau. Yn ystod Cynhadledd Entrepreneuriaid Cymru,a sefydlwyd ac a drefnwyd gan Walter May, daeth thema gyffredin i’r amlwg wrth drafod â fynychwyr dibreswyl: roedd nifer yn rhwystredig pa mor anodd oedd i gadw mewn cysylltiad â Chymru ac yn anodd darganfod ffyrdd i roi yn ôl i’r wlad sydd wedi’i helpu nhw. Roedd syniad yn dechrau datblygu. Sut allwn ni rhoi cyfle i bobl wneud hyn a gwneud y mwyaf o’i angerdd, gwybodaeth a’u harbenigedd?
Roedd ymchwil cychwynnol yn arwain at ddealltwriaeth bellach o gwmpas y term ‘diaspora’, symudiad neu ledaeniad o bobl i ffwrdd o’i mamwlad, ac i rywun sy’n gallu cynnig cyngor arbenigol - ymgynghorydd ‘diaspora’ blaenllaw Kingsley Aikins. Awgrymir Kingsley bod “cyn lleied ag ugain aelod o ‘ddiaspora’ Cymreig yn gallu newid llwyddiant economaidd Cymru”. A chyda hynny, mae'r hedyn ar gyfer GlobalWelsh yn cael ei blannu.