Picnic Hafaidd Cymreig: 14 o gynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru
Mae haf Cymru ar ei anterth (gyda glaw, wrth gwrs) ac mae tymor y picnic wedi cyrraedd. Mae Cymru yn gartref i gynhyrchwyr bwyd a diod o'r radd flaenaf, ledled y wlad. Mae llawer ohonynt ar gael ledled y byd. Felly yr haf hwn roeddem yn meddwl y byddai’n dda i rannu rhai o' hoff ddewisiadau ar gyfer eich basged bicnic. Dyma ychydig o ysbrydoliaeth i chi fynd allan i'r awyr agored gyda blas o gartref, boed glaw neu haul, yr haf hwn...
Trealy Farm Charcuterie
Gyda dros 40 cynnyrch maes gwahanol i ddewis ohonynt, mae Fferm Trealy ym Mhont-y-pŵl yn barod i ddarparu holl anghenion y teulu. Eisiau plat i ddau? Rhowch gynnig ar eu bocs i rannu sy'n cynnwys salami, cig eidion a ham. Eisiau bwydo'r teulu cyfan? Ewch am y bocs blasu Sir Fynwy gyda dros 8 o gigoedd gwahanol i ddewis ohonynt.
Ar gael ledled y Deyrnas Unedig
Ewch i weld eu charcuterie arobryn nawr >>
Welsh Lady Preserves
Ydych chi'n hoffi relish a siytni? Yna bydd Welsh Lady Preserves o Bwllheli at eich dant! Gyda dros 16 o jariau gwahanol yn amrywio o siytni tomato sbeislyd i bicl Piccalilli, mae yna rywbeth i bawb. A fyddai'n well gennych chi bicnic te prynhawn? Peidiwch â phoeni, mae ganddynt hefyd jamiau, marmalades a chyrdiau ffrwythau. Fy ffefryn yw'r jam duon.
Ar gael ledled y DU - o bosibl yn danfon dramor
Mae fel haf mewn jar, gwelwch yr ystod yma >>
Welsh Brew
Mae Paned Gymreig, sydd wedi'i leoli ym Mro Gŵyr, yn fusnes teuluol sy'n cynnig amrywiaeth o de sy'n amrywio o chamomile i Earl Grey. Hefyd, os nad ydych chi’n rhy hoff o de, mae ganddynt hefyd ystod eang o goffi a siocled poeth...
Dosbarthu gael ledled y byd
Cefnogwch fusnes Cymreig gyda'ch paned boreuol >>
SamosaCo
Ydych chi'n llysieuwr, yn fegan neu'n paratoi picnic ar gyfer rhywun sydd yn? Mae SamosaCo, sydd wedi'i leoli ym Mhontyclun, yn cynnig bwyd Asiaidd naturiol wedi'i creu gyda ryseitiau teuluol i gwsmeriaid. Ydych chi wedi rhoi cynnig ar eu bhaji, picl neu samosas? Archebwch un o'u hamperi neu eu bwndeli amrywiol ac ychwanegwch flas o Asia at eich picnic Cymreig.
Ar gael ledled y DU – posibl dosbarthu dramor
White Castle Vineyard
Erioed wedi rhoi cynnig ar win White Castle? Wel, dyma'ch cyfle i roi cynnig ar un (neu pob un) o'u saith math. Wedi'i leoli yng nghefn gwlad Sir Fynwy, sefydlwyd White Castle bâr sy’n angerddol am win, Rob a Nicola Merchant. Ydych chi'n edrych i rentu lleoliad priodas neu gorfforaethol? Ewch i'r winllan 7 erw am daith o amgylch y safle a chael golwg ar yr Ysgubor Crofft o'r 16eg ganrif.
Ar gael ledled y Deyrnas Unedig
Cribyn Coffee
Wedi'i sefydlu yn 2021 gan ŵr a gwraig, mae'r cwmni hwn o Aberhonddu yn cynnig ffa coffi arabica o ansawdd uchel, gan gyrchu eu ffa o bob cwr o'r byd, gan gynnwys Brasil, Ethiopia a Rwanda. Rhowch gynnig ar flas o Brasil gyda'u cymysgedd cyfyngedig 'Peaberry' neu cymerwch anadl o awyr y mynydd gyda 'Ethiopia'. Mae paned o goffi yn ychwanegiad gwych i unrhyw bicnic!
Ar gael ledled y Deyrnas Unedig
Dragon Cheese
Wedi'i leoli ym Mhen Llŷn, mae llaeth Dragon Cheese i gyd yn dod o Ogledd Orllewin Cymru. Gyda Cymru wrth ei wraidd, mae'r cwmni wedi gweithio gyda brandiau lleol eraill yn y gorffenol, gan gynnwys Halen Môn a Whisgi Penderyn! Os ydych chi wrth eich bodd gyda caws, ewch i gael golwg ar eu ryseitiau a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n rhoi cynnig ar eu Cheddar wedi aeddfedu yn mewn ceudyllau llechi.
Ar gael ledled Cymru yn Asda, Tesco, Morrisons, M&S a manwerthwyr annibynnol eraill.
Cradoc's Savoury Biscuits
Mae angen craceis i fynd gyda’ch caws! Wedi'i leoli yn Aberhonddu, mae gan Cradoc's Crackers 11 blas gwych o graceri gan gynnwys caws cennin a Chaerffili a betys a garlleg. Beth am ychwanegu ychydig o focsys i'ch basged? Mae pob un o'u cynhyrchion yn rhydd o wyau, cnau, sesame ac olew palmwydd hefyd!
Ar gael ar draws tir mawr y Deyrnas Unedig
HIVE MIND MEAD & BREW CO.
Fe sefydlwyd yng Nghil-y-coed gan y brodyr Kit a Matt sydd ar genhadaeth i wneud mêdd yn cŵl ar draws y byd. Dechreuodd Hive Mind Mead fel cyfuniad o gariad y brodyr tuag at wenyn a bragu. Byddem yn argymell rhoi cynnig ar eu pilsner mêl 'Nectar' newydd sbon i fywiogi unrhyw bicnic!
Ar gael ledled y DU - posibl dosbarthu dramor
Rhwydweithiwch gyda Hive Mind ar Connect >> Ewch i'w gwefan yma >>
Baravelli’s
Ffansi ychydig o siocled artisan? Gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio Barevelli's yng Nghonwy, Gogledd Cymru. Gyda partneriaethau gyda Harrods a Selfridges, ac wedi ymddangos ar The Wonderful World of Chocolate ar Channel 5, mae ymweliad â’r gwneuthurwyr siocled arbenigol yma’n hanfodol am wledd melys os ydych chi ar strydoedd Conwy.
Ar gael ledled y Deyrnas Unedig
Black Mountain Smokery
Gyda chigoedd wedi’u mygu arobryn, mae angen i Black Mountain Smokery o Grughywel fod ar eich rhestr ar gyfer y picnic perffaith. Ewch i weld eu hamperi moethus ac anfonwch fasged i'ch anwylyd sy'n llawn cynnyrch gwych o Gymru i unrhyw le yn y DU! Yn teimlo'n anturus? Edrychwch ar eu ryseitiau ar gyfer y diwrnodau glawog hynny yn y tŷ.
Ar gael ar draws tir mawr y Deyrnas Unedig
Ewch i weld y dewis o gynhyrchion nawr >>
Hilltop Honey
Ydych chi'n hoffi mêl yn eich te? Neu efallai mewn iogwrt neu ar dost? Sut bynnag rydych chi’n hoffi eich mêl, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi cynnig ar Hilltop Honey o Bowys! Maent hefyd yn gwerthu syrup agave a masarnol mewn pecynnau cwbl ailgylchadwy.
Ar gael ledled y Deyrnas Unedig
Welsh Saucery
Sôs coch, barbeciw neu frown? Mae gan Welsh Saucery yn Hwlffordd bob dim! Efallai ei fod yn anodd cytuno ar y saws gorau ymhlith teulu a ffrindiau, ond dim ots, oherwydd maen nhw hefyd yn cynnig bocsys cymysg fel y gallwch roi cynnig ar ychydig o bob un. Ac os nad saws yw eich peth chi, beth am roi cynnig ar un o'u sbeisys gyda chig o'ch dewis.
Ar gael ledled y DU - posibl dosbarthu dramor
Beth yw eich ffefryn chi? Gwnewch eich dewis yma >>
Drop Bear Beer
Yn hanu o Hwlffordd mae Drop Bear, y cwrw crefft di-alcohol a ysbrydolwyd gan Awstralia. Fel opsiwn carbon niwtral, fegan a heb glwten, dyma'r ddiod berffaith i bawb (llai plant😉). Awydd sipian o'u cwrw golau Yuzu? Efallai un o'u IPAs Trofannol? Beth am fachu pecyn cymysg ar eu gwefan neu yn y siop yn Tesco?
Ar gael ledled y DU
Blaswch Awstralia mewn can heddiw >>
Ymunwch â GlobalWelsh
Dewch yn rhan o dyfiant rhwydwaith ar-lein o bobl Gymeig sy’n cydweithio ar gyfer y gorau i Gymru gan gefnogi eraill, archwilio cyfleoedd busnes a rhannu gwybodaeth.
Ymunwch â GlobalWelsh